Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd,
Gwrandewir llais y gwan;
Wel cyfod bellach, f'enaid prudd,
Anadla tua'r lan.
Wel anfon eirchion amal ri'
I mewn i byrth y nef;
Gwrandewir pob amddifad gri
Yn union ganddo ef.
Myfi anturia' nawr ymlaen
Heb alwad is y ne'
Ond bod perffeithrwydd mawr y groes
Yn ateb yn fy lle.
Ni fethodd gweddi daer erioed,
A chyrhaedd hyd y nef;
Ac mewn cyfyngder, f'enaid rhed,
Yn union ato Ef.
Anturiaf at ei orsedd fwyn,
Tan eitha tywyll nos;
Ac mi orphwysaf, doed a ddel,
Ar haeddiant gwaed y groes.
Mi waeddaf yn y 'storom fawr,
Dan donau fwy na rhi';
Ac fe esgyna'm drylliog lef,
I entrych nefoedd fry.
Fe ffy'r tywyllwch wrth fy nghri,
Yn nghyfyngderau'r nos;
Can's nid â'n ofer gais fy Nuw,
A waeddodd E' ar y groes.
Calfaria fryn yw'r unig sail
Adeilaf arno mwy,
A gwraidd fy nghysur
fyth gaiff fod
Mewn dwyfol, farwol glwy'.
William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Agorwyd pyrth y nefoedd wiw Anturiaf at ei orsedd fwyn Boed dyoddefiadau pur y groes Iesu yw 'Mrawd a 'Mhriod pur Mae pyrth y nef o led y pen Ni fethodd gweddi daer erioed |
The great throne is now free,
The voice of the weak is to be heard;
So from now on arise, my sad soul,
Aspire towards the shore.
So send entreaties often
Into the portals of heaven;
Every destitute cry will be heard
Directly by him.
I will venture now forwards
Without a call under heaven
But that the great perfection of the cross
Is answering in my place.
An earnest prayer never failed,
And reaches as far as heaven;
And in straits, my soul will run,
Directly to Him.
I will venture to his gentle throne,
Until the utter dark of night;
And I will rest, come what may,
On the merit of the blood of the cross.
I will shout in the great storm,
Under billows more than number;
And my broken cry will ascend,
To the vault of heaven above.
The darkness will flee at my cry,
In the straits of the night;
For I will not go in vain to seek my God,
Who himself shouted on the cross.
Calvary hill is the only basis
On which I will build henceforth,
And the root of my comfort
will ever be found
In a divine, mortal wound.
tr. 2009,10 Richard B Gillion
|
|